Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2021
Amser:
13.30 -
15.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12514
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Grace Martins, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Cath Wyatt, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas â'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn anfon llythyr at y Gweinidog ar ôl y sesiwn gyda chwestiynau ychwanegol yn ymwneud â'r Bil.
3 Offerynnau statudol negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3B.
3.1 pNeg(6)002 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
4.1 SL(6)087 - Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad o ran ei hymateb i’r adroddiad.
4.2 SL(6)091 - Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4.3 SL(6)092 - Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.4 SL(6)093 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.5 SL(6)094 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.6 SL(6)095 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.7 SL(6)096 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.8 SL(6)100 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.9 SL(6)097 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd diwygiedig a nodwyd ac a drafodwyd yn y cyfarfod.
4.10SL(6)088 - Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
4.11SL(6)089 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Is-ddeddfwriaeth nad yw’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7
5.1 SL(6)090 – Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon arno.
6 Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
6.1 WS-30C(6)004 - Rheoliadau Ystadegau'r DU (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2021
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
7 Fframweithiau cyffredin
7.1 Fframwaith cyffredin dros dro: Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
8 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
8.1 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog, a’i fod wedi’i anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.
8.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyng-Weinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a’i fod wedi’i anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.
9 Papurau i'w nodi
9.1 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Pŵer Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith, Senedd yr Alban: Ymchwiliad i ddefnyddio’r weithdrefn gwneud cadarnhaol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gynullydd Pwyllgor Pŵer Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith Senedd yr Alban ac, yn breifat, cytunwyd i ymateb maes o law.
9.2 Gohebiaeth â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
9.3 Gohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd y DU.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac o Eitem 1 y cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 13 Rhagfyr 2021
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
11 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth
Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiwn gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a nododd y byddai'n ystyried ymateb y Gweinidog i'w lythyr gyda chwestiynau ychwanegol maes o law.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd arno, ac y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn 5pm.
13 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau - trafod yr adroddiad drafft.
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
14 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
14.1Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - trafod yr adroddiad drafft diwygiedig.
Ystyriodd y Pwyllgor fersiwn ddiwygiedig o'i adroddiad ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Llywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
14.2Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
14.3Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
Nododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a osodwyd ar 3 Rhagfyr 2021.
15 Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 29 Tachwedd 2021 - trafod yr adroddiad drafft
Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a ystyriwyd yn ei gyfarfod ar 29 Tachwedd 2021, a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Sefydliad Llafur Rhyngwladol: Confensiwn Trais ac Aflonyddu 2019 (Rhif 190), ac i rannu gohebiaeth gan y Prif Weinidog ar y DU / y Swistir: Confensiwn ar gydlynu nawdd cymdeithasol gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Hefyd, nododd y Pwyllgor y byddai copi o’i adroddiad yn cael ei roi i aelodau Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi.